Rhannodd Helen Pritchard, un o’n panelwyr Cyfranogi ac Ymgysylltu ymroddedig, ei stori gyda ni “Dechreuais roi gwaed pan oeddwn yn y brifysgol ac rwyf wedi annog fy mhlant i gyd i wneud yr un peth. Fodd bynnag, yn 2021, cefais ddiagnosis o ganser a threuliais y flwyddyn honno yn cael triniaeth. Er fy mod yn ffit ac yn iach ar hyn o bryd, roeddwn yn siomedig i ddarganfod bod fy nyddiau rhoi wedi dod i ben. Mae bod ar y Panel Cyfranogi ac Ymgysylltu yn golygu llawer i mi gan mai dyma fy ffordd newydd o barhau i roi i Wasanaeth Gwaed Cymru.
Rwyf wedi cymryd rhan mewn un sesiwn ar-lein hyd yn hyn, yn trafod sut mae cynhyrchion gwaed yn cael eu storio. Roeddwn ychydig yn bryderus ar y dechrau, gan feddwl nad oeddwn yn gwybod dim am y pwnc, ond nid oedd angen i mi fod wedi poeni! Roedd yr esboniadau mor glir, ac roedd yr arweinwyr ac aelodau eraill y panel yn gyfeillgar iawn. Yn y pen draw, roeddwn nid yn unig yn gallu cyfrannu ond hefyd yn dysgu llawer. Rwy’n edrych ymlaen at fy nghyfle nesaf a byddwn yn argymell y profiad yn fawr.”