Hemoglobin, Haearn a Anemia
Beth ydy hemoglobin?
Hemoglobin ydy pigment coch y gwaed. Mae’n cynnwys haearn ac yn cario ocsigen o’r ysgyfaint i weddill y corff. Mae’r lefel haemoglobin yn amrywio o berson i berson a hyd yn oed o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, mae rhoddwyr ifanc, rhoddwyr benywaidd sydd yn y cyfnod cyn y menopos, rhoddwyr sy’n rhoi gwaed yn rheolaidd iawn a rhoddwyr sydd â lefelau isel o haearn yn eu deietau mewn mwy o berygl o ddioddef o ddiffyg haearn o ganlyniad i roi gwaed. Fel arfer, mae gan ddynion lefelau uwch na menywod.
Beth ydy haearn?
Mae haearn yn faetholyn hanfodol. Mae’n gydran o haemoglobin, mewn celloedd coch y gwaed, ac o fyoglobin, mewn celloedd y cyhyrau, sy’n gyfrifol am gludo ocsigen o amgylch y corff ac am storio ocsigen mewn cyhyrau a meinweoedd. Mae haearn yn gydran o ensymau hefyd, sy’n bwysig ar gyfer metaboledd ynni.
Beth ydy anemia?
Mae anemia’n digwydd pan fo lefel yr hemoglobin yn is na’r arfer. Er bod y corff dynol yn gallu storio rhywfaint o haearn yn lle’r hyn sy’n cael ei golli, gall lefelau isel o haearn dros gyfnod hir o amser arwain at anemia, sy’n cael ei achosi gan ddiffyg haearn, a pheri i unigolion brofi amrywiaeth o symptomau, sy’n cynnwys; diffyg egni, prinder anadl, croen gwelw, cur pen, anniddigrwydd, pendro, crychguriadau’r galon a cholli pwysau.