Mae merch ifanc 22 oed o'r Barri yn annog pobl ar draws Cymru i ystyried rhoi gwaed, platennau a mêr esgyrn y Nadolig hwn. Cafodd enillydd Miss Wales, Darcey Corria, nifer o drallwysiadau gwaed ar ôl i ddamwain car difrifol ei gadael yn ymladd am ei bywyd.
Cafodd Darcey ei choroni’n Miss Wales ym mis Mai 2022, ond bu bron i'w llwyddiant ddod i ben yn drasig pan dorrodd ei phelfis, ei chefn, ei gên a’i gwddf yn dilyn damwain car ym mis Ionawr 2023 ar yr M4 ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Featured image courtesy of Danielle Latimer.