Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru (WBS) yn dathlu ar ôl cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau GIG Cymru eleni, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.
Mae'r Gwobrau GIG Cymru yn cydnabod sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i'r cleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy'n darparu gofal, a'r system iechyd a gofal yn gyffredinol. Mae'n gyfle i arddangos timau gweithgar ac ysbrydoledig sy'n gweithio gyda'i gilydd, gan ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi cael ei enwebu ar gyfer y wobr ganlynol:
Darparu gwasanaethau mewn partneriaeth ar draws GIG Cymru
Gwasanaeth Gwaed Cymru - Gwella gofal cleifion drwy drawsnewid mynediad at ddata cleifion sydd wedi cael trawsblaniad aren ledled Cymru: Gweithredu dangosfwrdd digidol data byw ar y cyd
Roedd y prosiect yn cynnwys datblygu dangosfwrdd trawsblaniad aren newydd arloesol sydd wedi'i lansio gan Labordy Trawsblannu ac Imiwnogeneteg Cymru, Gwasanaeth Gwaed Cymru (WTAIL).
Cyflwynwyd dangosfwrdd trawsblaniad aren digidol i wella'r broses o ddiweddaru, dosbarthu a gweld y Gofrestr Trawsblannu Arennau/Pancreas. Mae WTAIL yn cadw cofrestr o tua 250 o gleifion o Dde, Gorllewin a Chanolbarth Cymru, sydd ar restr aros y DU i dderbyn trawsblaniad aren a/neu bancreas.
Cydweithiodd WTAIL gydag arbenigwyr yng Nghanolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a Gwasanaethau Digidol Gwasanaeth Gwaed Cymru i ddylunio a gweithredu'r dangosfwrdd newydd.
Mae'r dangosfwrdd Trawsblaniad Aren newydd yn casglu data cleifion o gronfeydd data WTAIL, ac yn dangos y data yn glir i staff WTAIL a defnyddwyr allanol awdurdodedig yn GIG Cymru, mewn dangosfwrdd rhyngweithiol "Power BI." Mae hyn yn helpu WTAIL a'u defnyddwyr gwasanaethau i ddarparu gwell gofal i gleifion, trwy roi mynediad at yr wybodaeth ddiweddaraf (yn lle aros am adroddiadau misol) a darparu awgrymiadau gweledol (e.e. pan fydd angen samplau gwaed newydd).
Cynigiwyd y syniad yn gyntaf gan Reolwr Gwasanaethau Labordy WTAIL, Deborah Pritchard, mewn digwyddiad 'Hackathon' yn 2021, i ddatblygu syniadau. Yna, cafodd ei ddylunio a’i wella gan dîm Canolfan Rhagoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru, mewn cydweithrediad â Thîm Prosiect GGC.
Wrth drafod y dangosfwrdd newydd, dywedodd Felicity May, Arbenigwr Clinigol ac Arweinydd Digidol Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg: "Mae'r dangosfwrdd Trawsblaniad Aren wedi cael effaith fawr, nid yn unig ar gyfer gwella'r ffordd rydym yn rheoli ein cleifion sydd angen trawsblaniad ond hefyd, er mwyn tynnu sylw at y potensial ar gyfer defnyddio datrysiadau digidol i wella ein gwasanaethau."
Dywedodd Dr Tracey Rees, Prif Swyddog Gwyddonol Gwasanaeth Gwaed Cymru, "rydym wedi cael adborth cadarnhaol am y dangosfwrdd yn barod gan ddefnyddwyr gwasanaethau.
"Mae hon yn enghraifft wych o gydweithio rhwng GGC a grwpiau rhanddeiliaid eraill y GIG, i fynd i'r afael ag anghenion gwasanaethau a gwella’r gofal i gleifion.
"Rydym wrth ein bodd ein bod ni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon, ac rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chystadleuwyr eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y seremoni wobrwyo ym mis Hydref. Yn y cyfamser, hoffwn longyfarch y tîm am y gwaith arloesol maen nhw wedi'i wneud i wireddu'r cysyniad arloesol hwn."
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar 26 Hydref yng Nghaerdydd. Gyda nifer aruthrol o enwebiadau ysbrydoledig wedi’u cyflwyno eleni, roedd y panel beirniadu o arbenigwyr y GIG yn ei chael hi’n hynod o anodd llunio rhestr fer o’r 24 a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn yr wyth categori gwobrau. Yn y cam nesaf, bydd y beirniaid yn ymweliad â phob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn rhithwir i gael rhagor o wybodaeth am eu prosiectau gwella.
I gael rhestr lawn o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ewch i gwobraugig.cymru..